P-05-758 Cerflun i anrhydeddu Billy Boston
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan CIAC's RFC ar ôl casglu 151 llofnod.
Geiriad y ddeiseb
Rydym
yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i
anrhydeddu un o arwyr chwaraeon Prydain a Chymru, Billy Boston,
gyda cherflun ym Mae Caerdydd.
Cafodd ei eni a'i fagu yn ardal y dociau yng Nghaerdydd ac mae'n
hen bryd i'w lwyddiannau ar y maes chwarae gael eu cydnabod gan ei
dref enedigol a'i wlad.
Ar ddechrau ei yrfa rygbi, cafodd ei anwybyddu gan glwb ei dref
enedigol, Clwb Rygbi Caerdydd, ac o ganlyniad ni wireddwyd ei
freuddwyd o chwarae ym Mharc yr Arfau. Wigan wnaeth elwa ar golled
Caerdydd a Chymru, ac aeth Billy ymlaen i sgorio 478 cais mewn 487
gêm i'r clwb. Dyma rai o uchafbwyntiau eraill ei yrfa:
· Tair Cwpan Her a theitl Pencampwriaeth RFL ym 1960
· 24 cais mewn 31 gêm ar gyfer Prydain ac roedd yn aelod o'r tîm a enillodd Cwpan y Byd ym 1960
Mae Wigan wedi ei anrhydeddu yn ddiweddar gyda cherflun, a cheir
cerflun hefyd yn stadiwm Wembley yn tynnu sylw at ei ddylanwad a'i
statws o fewn rygbi'r gynghrair.
Mae Clwb Rygbi CIAC (clwb cyntaf Billy) yn barod i helpu mewn
unrhyw ffordd i godi arian ac ati, ac mae gennym chwaraewr ar hyn o
bryd sy'n gerflunydd ac a fyddai'n fwy na hapus i fod yn rhan o'r
prosiect.
Mae'n bryd cywiro camweddau'r gorffennol, a rhoi i Billy y parch
a'r anrhydedd y mae'n eu haeddu gan Gaerdydd a Chymru, a pha well
ffordd o wneud hynny na gyda cerflun yn y rhan o Gaerdydd lle y
cafodd ei eni a'i fagu.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Gogledd Caerdydd
· Canol De Cymru